Croeso'r Cadeirydd
Pwy feddyliai nôl yn 1991, pan ddaeth Eisteddfod Talaith Powys i’r Bala gyntaf, y byddai un o’r macwyaid bach (gwalltog!) 10 oed yn Gadeirydd ar y pwyllgor gwaith yn ystod ymweliad yr Eisteddfod â’r dref yn 2023! Ond ie, wir i chi, y fi ydio ac, fel cael fy newis i fod yn facwy, braint aruthrol yw cael bod yn gadeirydd a hynny ar dîm gweithgar a brwdfrydig iawn. Yr ydym yn Edeyrnion a Phenllyn wedi hen arfer gwahodd eisteddfodau atom, a’r ddwy ardal wedi gwesteio Eisteddfod Talaith Powys ar nifer o achlysuron. Ond, yn wahanol i’r gorffennol, y tro hwn yr ydym wedi penderfynu uno i rannu ein profiadau a’n brwdfrydedd gyda’n gilydd fel y gallwn drefnu chwip o Eisteddfod gofiadwy...parhau i ddarllen
Ysgol Godre’r Berwyn Y Bala
Rheolau Cystadlu i ddilyn yn fuan...
Mae nifer o straeon am hynt a helynt Eisteddfod Powys ar gael ar dudalen:
Hanes yr Eisteddfod
Cewch wybod pwy aeth â hi ar bob cystadleuaeth drwy glicio yma:
Canlyniadau
Mae Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn lansio Cystadleuaeth Lenyddol arbennig iawn. Mwy o wybodaeth ar gael drwy glicio yma:
Gwobr Llanbrynmair
Edwin Hughes
Gwytheyrn,
Pennant,
Llanbrynmair,
Powys
SY19 7BH
Ffȏn: 01650 521203
Ebost: eisteddfodpowys@outlook.com
Wedi hir ymaros, gallwn gyhoeddi y bydd Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn ôl yn y cnawd. Ar ôl dwy flynedd heb Eisteddfod draddodiadol - mae brwd edrych ymlaen at Eisteddfod eleni a fydd yn cael ei chynnal yn y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 15-16 o Orffennaf.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth