Bu cystadlu brwd yn ystod y deuddydd, gyda’r beirniaid yn nodi safon uchel nifer o’r cystadlaethau. Ni allodd storm ar y nos Sadwrn amharu ar y cystadleuwyr a’u perfformiadau na mwynhad y gynulleidfa. Cafwyd teilyngdod ym mhob un o’r seremonÏau. Ar y dydd Gwener enillydd y Tlws dan 25 oed oedd Iestyn Tyne o Boduan a chipiwyd y Goron gan Karina Wyn Dafis o Lanbryn-mair. Yna ar y dydd Sadwrn gwelwyd Maria Haines o Langollen yn derbyn Tlws y Dysgwyr, Anwen Pierce o Bow Street yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair a Lois Llywelyn Williams o Forfa Nefyn yn derbyn y Tlws Drama. Ar y bore Sadwrn, oherwydd y glaw, ail-agorwyd yr Orsedd yn Neuadd Oliver Jones, Dolywern. Yn ystod y seremoni urddwyd Huw Ceiriog yn Dderwydd Gweinyddol ac unarddeg o aelodau newydd, wyth i’r wisg werdd, dau i’r wisg las ac un i’r wisg wen.
Cliwch ar y ddolen i weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod ar ffurf PDF:
Rhestr Testunau 2014