Prif Wobrau'r Eisteddfod

 

 

 

 

image

 

Y GADAIR

Newydd a hen sydd yng ngwneuthuriad y gadair, sef onnen a derw. Mae’r gadair ei hun allan o onnen – coeden sydd bellach dan fygythiad yn Ewrop ac fe’i defnyddir yn helaeth yn y gweithdy yng Nglyn Ceiriog. Mae’r rhan tywyll ar y cefn a’r breichiau o dderw hynafol iawn, sef rhan o hen dderwen fawr Pontfadog y daeth ei thranc yng ngaeaf 2013.

image

 

Y GORON

Yn Eisteddfod Llangollen 1858 enillodd Ceiriog goron am ei rieingerdd i Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân, a dyma’r digwyddiad â ddaeth ag ef i sylw’r genedl. Plethiad o frigau a dail bedw go iawn yw’r goron sydd wedi cael eu hariannu drwy broses debyg i electrolysis.
Mae’r goron honno erbyn hyn yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Gofynnwyd i John Price, y lluniwr coronau o Fachynlleth, wneud coron fyddai’n dangos dylanwad coron Ceiriog, ac ar ôl taith i Sain Ffagan lluniwyd y goron bresennol sydd hefyd yn defnyddio’r un broses wyddonol o ariannu dail a brigau bedw.
Trwy gyd-ddigwyddiad, tra’r oedd John Price wrth y gwaith, canfyddwyd cyfeiriad yng nghyfrol lawysgrif Y Parch W. Rhys Jones (Gwenith Gwyn) “Llên Gwerin Dyffryn Ceiriog” sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol a oedd o ddiddordeb: “Os y byddai merch yn caru y llanc a geisiai ei llaw a’i chalon, anfonai gangen fedwen iddo, fynychaf ar y ffurf o bleth gron yn fath o goron.”



image

 

CORON Y DYSGWYR

Mae Coron y Dysgwyr fel y Gadair a’r Goron yn adlewyrchu’r newydd a’r hen. O ddur gwrthstaen a phres y gwnaed y goron gyda’r rhybedion wedi eu gwneud yn arbennig gan y cynllunydd, Roddy Forsyth. Mae’r dail derw sy’n ei haddurno yn ein hatgoffa o goron Ceiriog ac hefyd hen dderwen Pontfadog, gwrthrych sydd wedi dod i’r amlwg fwy nag unwaith wrth i ni baratoi i groesawu’r eisteddfod i’r Dyffryn.