• Eisteddfod Powys - rhywbeth at ddant pawb.

  • Cynnal y traddodiad - Cynnal y Pethe i'r genhedlaeth nesaf.

  • Dathlu doniau - Hybu a Meithrin talentau o bob oed.

  • Y safon uchaf - Denu'r cystadleuwyr gorau o bob cwr o'r wlad

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys

Croeso i wefan Eisteddfod Talaith a Chadair Powys.

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026

Croeso'r Cadeirydd

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mae’n bleser o’r mwyaf cael cyflwyno ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod Talaith a Chadair Powys – Machynlleth 2026.

Mae’r ardal yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i’r dref ar ôl seibiant o 14 mlynedd.

Mae gen i gyswllt â’r Eisteddfod sy’n mynd yn ôl tua 35 mlynedd – (sy’n gwneud i mi deimlo’n andros o hen!) gan i mi fod yn gyw-gadeirydd ar Bwyllgor Drama’r ŵyl pan ddaeth yr Eisteddfod i’r dref yn 1989, ac yn dilyn hynny rwyf wedi cynnal diddordeb achlysurol yn yr Eisteddfod fel cystadleuydd a chefnogwr. Felly, mae cael cadeirio’r Pwyllgor Gwaith eleni yn fraint ac yn bleser gan fod yr aelodaeth yn ffyddlon, yn frwdfrydig ac yn weithgar ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pawb i’r dref ddechrau mis Gorffennaf 2026...parhau i ddarllen

Mwy am Eisteddfod Powys 2026

 

c

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026

MOMA / Y Tabernacl, Machynlleth

c

Cofrestru i Gystadlu

Cofrestrwch i gystadlu yn Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026:

Cofrestru Cystadlaethau Llwyfan

c

Cyflwyno gwaith

Rheolau Cystadlu i ddilyn yn fuan...

c

Hanes yr Eisteddfod

Mae nifer o straeon am hynt a helynt Eisteddfod Powys ar gael ar dudalen:
Hanes yr Eisteddfod

c

Amserlen Cystadlu

Amserlen Cystadlu ar gyfer Eisteddfod Talaith Chadair Powys Bro Ddyfi 2026

Gorffennaf 3-4 2026

Yma'n fuan...

c

Gwobr Llanbrynmair

Mae Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn lansio Cystadleuaeth Lenyddol arbennig iawn. Mwy o wybodaeth ar gael drwy glicio yma:
Gwobr Llanbrynmair

c

Canlyniadau

Yma'n fuan...

 

 

c

NODDI EISTEDDFODAU BACH LLEOL

Mae Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn cynnig £75 o nawdd blynyddol i eisteddfodau cymunedol lleol sydd o fewn dalgylch talaith Powys. I ddarganfod os ydi eich eisteddfod o fewn y dalgych cysylltwch gyda'r Cofiadur ar eisteddfodpowys@outlook.com.


Gellir gwneud cais trwy anfon llythyr neu y ffurflen isod at y trysorydd: Bryn Davies, Nant Hirwen, Moelfre, Powys, SY10 7QW nanthirwen@hotmail.co.uk


Ffurflen Hawlio Nawdd.




SPONSORING SMALL LOCAL EISTEDDFODS


Cymrodoriaeth Eisteddfod Talaith a Chadair Powys offer £75 annual sponsorship for local community eisteddfods within the Eisteddfod Powys catchment area. To find out if your Eisteddfod is eligible contact eisteddfodpowys@outlook.com.


Applications can be made via letter or by filling in the below form and sending it to the treasurer, Bryn Davies, Nant Hirwen, Moelfre, Powys, SY10 7QW. nanthirwen@hotmail.co.uk


Sponsorship Application Form.

o

Amseroedd Rhagbrofion

Manylion yn fuan
o

Ymholiadau

Adran Gerdd ac Offerynol: alwyn_evans@hotmail.com

Adran Gwerin a Cherdd Dant: mennablake@gmail.com
Adran Lefaru a Theatr: pryderi83@gmail.com

Adran Ddawns: meelerijones@gmail.com

Adran Y Dysgwyr: eiw@aber.ac.uk

 

Pob hwyl gyda’r gwaith paratoi ac edrychwn ymlaen at eich cwmni ar benwythnos 3ydd a 4ydd o Orffennaf 2026 yn MOMA / Tabernacl, Machynlleth.

Cysylltu

Oriel lluniau

  • Sponsor 1