Hanes yr eisteddfod

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Croesoswallt 1896

Yn achlysurol y mae’r Gymrodoriaeth yn cyhoeddi llyfryn bach sy’n cynnwys gweithiau llenyddol buddugol rhai o’r Eisteddfodau efo’i gilydd, ac fe wnaed hynny yn 1922. O. T. Davies, Owain Ddu, oedd y Golygydd, ac yng nghefn y Llyfr y mae yna ychydig o nodiadau, fel y mae o’n dweud – “I aros egwyl i wneud ymchwiliadau pellach wele ychydig o’r “hyn a fu” yn eisteddfod ym Mhowys”. Ymhlith yr “hyn a fu” y mae gwybodaeth hynod o ddiddorol am Eisteddfod Powys Croesoswallt yn 1896:

“O nerth i nerth yr aeth yr Eisteddfod gan ychwanegu at ei hanrhydedd a’i gogoniant, ac erbyn cyrraedd Croesoswallt, yn 1896, y mae iddi hanes fel un o sefydliadau pendant Powys. Yn awr y mae yn nesaf at fryniau a dyffrynnoedd Maldwyn mewn gwychder. Cadfan oedd eto yn arwain. Llawdden a Dyfed oedd yn beirniadu y farddoniaeth; Athro Lloyd, Owen Owens, Archddeacon Thomas, Lloyd Williams M.A., ac eraill gyda gwahanol faterion eraill. Dr. Bridge oedd yn tafoli’r gerdd, gyda David Jenkins Mus. Bac.. Peth pwysicaf y dydd oedd araeth ddysgedig y Prifathro John Rhys, Coleg yr Iesu, Rhydychen, ac ni ddylai neb ymgeisio at ysgrifennu hanes ym Mhowys heb ddarllen yr araeth odidog honno a geir yn yr Oswestry Advertiser am 1896. Yr oedd bonedd a gwreng yr ardal ar ei gore, yr arddangosfa celfyddydol yn wir ardderchog, ac ni chlywsom am unrhyw barth o Gymru yn rhoddi gwell croeso i’r ŵyl nag a wnaed gan wŷr Croesoswallt yn 1896. W. O. Jones, o Ffestiniog a gannau benillion, a Miss Jenny Parry, Telynores Lleifiad, a gannau’r delyn. Cafwyd englynion gwych oddi ar y Maen Llog gan Alarch Glan Dyfi. Wele un:-

 

Dymunol gwel’d y meini – yng Ngwalia
yng ngolwg goleuni;
Er pob barn fyrbwyll arni – ei deifion
a bery, ddynion, tra bu barddoni.”

 

Dyma un arall gan Gwilym Ceiriog:-

 

Cawn ganu’n iach i’r masnachol – a brwd
briodi’r llenyddol;
Aiff ein clau eneidiau’n ȏl
I nefoedd yr henafol.

 

Y prif fuddugwyr: - Englynion ar “Gair Ogyrfan” Elfyn ac un arall. Rhoddwyd gwobr gan Mr. R. Hughes Vet. Surgeon am englyn Seisneg ar “The Horse” ond er i bump ddyfod i law dywedai Dyfed nad oedd na cheffyl nac englyn yn deilwng o’r wobr. Testun y Gadair oedd pryddest ar “Esgyniad y Cymro”, gyda £10 o wobr gyda’r gadair. Y bardd buddugol oedd Eifion Wyn. Ac ar ei gadeirio y canodd Dyfed iddo:-

 

Hwylus wir fu’ hawlio sedd – arbennig
Ar binacl anrhydedd;
Y gore am gywiredd
Yw’r dyn clir â dan y cledd.

 

Oes ddaionus ddiwenwyn – i ddedwydd
Awdwr cân ac englyn;
A chadair harddach wedyn
A fo’n ôl i Eifion Wyn.

 

Yr oedd yr ŵyl hon am ddau ddiwrnod. Yr hwyr y dydd cyntaf rhoddwyd datganiad am y tro cyntaf o waith cerddorol Dr. Reynolds, a mawr fu y canmol a’r mwynhad. gwobrwywyd Morfudd Eryri(Mrs. Walter Thomas, Holyhead), am 300 llinell i “Oswald, Sant a Brenhin,” yr ore o chwech. Dyma rhai o enwogion yr eisteddfod hon, at y rhai a enwyd – Prof. Kuno Meyer (yn canu pennillion gyda’r tannau), Hannah Jones, Arglwydd Kenyon (yn darllen englyn). Y buddugol ar y Cywydd, ar y testun: “Y Cynhauaf,” oedd Elfyn. Enillydd y wobr o £10 am draethawd ar “Gororau Cymry: ei deddfau a’i llywodraeth” oedd Miss Lucretia Mickleburgh, Croesoswallt.”

Edwin Hughes