Eisteddfod Powys Bro Ddyfi 2026

Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026

MOMA / Y Tabernacl, Machynlleth

3 a 4 o Orffennaf 2026

Croeso'r Cadeirydd

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, mae’n bleser o’r mwyaf cael cyflwyno ein Rhestr Testunau ar gyfer Eisteddfod Talaith a Chadair Powys – Machynlleth 2026.

Mae’r ardal yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r Eisteddfod yn ôl i’r dref ar ôl seibiant o 14 mlynedd.

 

Mae gen i gyswllt â’r Eisteddfod sy’n mynd yn ôl tua 35 mlynedd – (sy’n gwneud i mi deimlo’n andros o hen!) gan i mi fod yn gyw-gadeirydd ar Bwyllgor Drama’r ŵyl pan ddaeth yr Eisteddfod i’r dref yn 1989, ac yn dilyn hynny rwyf wedi cynnal diddordeb achlysurol yn yr Eisteddfod fel cystadleuydd a chefnogwr. Felly, mae cael cadeirio’r Pwyllgor Gwaith eleni yn fraint ac yn bleser gan fod yr aelodaeth yn ffyddlon, yn frwdfrydig ac yn weithgar ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pawb i’r dref ddechrau mis Gorffennaf 2026.

Mae Dyffryn Dyfi yn gadarnle i ddiwylliant Cymreig yn sir Drefaldwyn ac mae’r traddodiad Eisteddfodol yn ffynnu yn y dyffryn. Mae yma gorau a phartïon niferus a chystadleuwyr unigol dawnus sy’n cefnogi Eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae MOMA Machynlleth, neu’r Tabernacl fel y’i gelwir yn lleol, yn ganolfan gelfyddydol nodedig sydd wedi cefnogi’r diwylliant celfyddydol a diwylliannol yn y dref ers deugain mlynedd – a dyma fydd yr awditoriwm amlwg ar gyfer cystadlaethau llwyfan Eisteddfod Talaith a Chadair Powys 2026.

 

Mae hen hanesion niferus a nodedig yn gysylltiedig â’r ardal; coronwyd Owain Glyndŵr yn dywysog Cymru yn y dref yn 1404 ac yma fe sefydlodd Senedd gyntaf Cymru, a chyfeirir at y dref fel Prifddinas hynafol Cymru. Cofir hefyd am Dafydd Llwyd Mathafarn, Lleucu Llwyd Dolgelynen, carcharu Dafydd Gam yn Royal House, Cogau Abercuag a llawer mwy...

 

Mae Machynlleth yn dref farchnad fyrlymus a hygyrch; mae yma bont newydd i’ch croesawu o’r gogledd, gwasanaeth bws Traws-Cymru sy’n cysylltu’r de a’r gogledd, a gorsaf reilffordd brysur sy’n cysylltu’r dwyrain a’r gorllewin – felly heidiwch yma i’r dyffryn i gefnogi’r Eisteddfod ac i ddod i adnabod yr ardal – mae yma groeso cynnes ar eich cyfer.

 

Alun Jones
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith


Welcome from the Chairman


As the Chairman of the Executive Committee, it is a pleasure to present our List of Competitions for Eisteddfod Powys 2026.

 

After a break of 14 years, we are all looking forward to welcoming the Eisteddfod back to town.

 

I have a connection with the Eisteddfod, going back about 35 years - (which makes me feel very old!) as I was co-chairman of the Drama Committee when the Eisteddfod came to town in 1989, and following that I have maintained an occasional interest in the Eisteddfod as a competitor and supporter. Therefore, chairing the Executive Committee this year is a privilege and a pleasure as the membership is loyal, enthusiastic and active, and eagerly looks forward to welcoming everyone to Machynlleth in early July 2026.

 

The Dyfi Valley is a stronghold of Welsh culture in Montgomeryshire and the Eisteddfod tradition thrives in the valley. There are numerous groups and talented individual competitors who support local and national Eisteddfods. MOMA Machynlleth, or the Tabernacle as it is known locally, is a notable arts centre that has supported the arts and culture in town for forty years - and this will be the prominent auditorium for Eisteddfod Powys’ stage competitions in 2026.

 

There are many notable old stories associated with the area; Owain Glyndŵr was crowned as the Prince of Wales in the town in 1404 and here he established the first Parliament of Wales, and the town is referred to as the ancient Capital City of Wales. Dafydd Llwyd Mathafarn, Lleucu Llwyd Dolgelynen, the imprisonment of Dafydd Gam in Royal House, Cogau Abercuag and many more…

 

Machynlleth is a lively and accessible market town; there is a new bridge to welcome you from the north, a Traws-Cymru bus service that connects the south and the north, and a busy railway station that connects the east and the west - so come here to the valley to support the Eisteddfod and to get to know the area - there is a warm welcome for you.

 

Alun Jones
Chairman of the Executive Committee

 

Rhestr Testunau

Rhestr Testunau’r Eisteddfod Talaith a Chadair Powys Bro Ddyfi 2026 (pdf)